Abdelbaset al-Megrahi | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Ebrill 1952 ![]() Tripoli ![]() |
Bu farw | 20 Mai 2012 ![]() Tripoli ![]() |
Dinasyddiaeth | Libia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person milwrol ![]() |
Dinesydd Libiaidd a gafwyd yn euog o lofruddio 270 o bobl yn nhrychineb Lockerbie oedd Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi (1 Ebrill 1952 – 20 Mai 2012).[1]
Fe'i ganwyd yn Tripoli. Astudiodd yn yr Unol Daleithiau a Chaerdydd yn y 1970au. Yn y 1980au daeth yn bennaeth diogelwch y cwmni hedfan Libyan Arab Airlines (LAA).
Roedd al-Megrahi yn un o'r ddau Libiad a gyhuddwyd o fomio Ehediad Pan Am 103 ym 1988, gan ladd yr holl griw a'r teithwyr ac 11 o bobl ar lawr yn nhref Lockerbie, yr Alban. Yn ôl yr FBI, roedd al-Megrahi yn gweithio i Mukhabarat el-Jamahiriya, yr asiantaeth cudd-wybodaeth Libiaidd. Yn 2001, cafwyd al-Megrahi yn euog o 270 cyhuddiad o lofruddiaeth gan dri barnwr Albanaidd mewn llys yn yr Iseldiroedd. Ni chafwyd Lamin Khalifah Fhimah yn euog o'r un cyhuddiad. Cafodd al-Megrahi ei ddedfrydu i garchar am oes, ond cafodd ei ryddhau o'r carchar yn 2009 am resymau tosturiol, a bu farw o ganser y prostad yn 2012.[2][3]